Dyma
gyfres o wersi a phosau Beiblaidd llawn hwyl i blant
ac ieuenctid. Mae pedwar grwp oedran allweddol yn y
gyfres, Safon 1 (5-7 oed), Safon 2 (8-10 oed), Safon
3 (11-13 oed) a Safon 4 (14+ oed).
Mae
yma wersi am lawer o straeon pwysicaf a phrif gymeriadau'r
Beibl. Mae cynllun tair blynedd wedi'i drefnu ar gyfer
pob grwp oedran gyda chyfres o bedair gwers ar gyfer
pob mis. Y bwriad yw bod y plant yn gwneud un wers yr
wythnos. Mae'r gwersi'n cael eu cyflwyno mewn ffordd
uniongyrchol a diddorol gyda'r nod o annog y disgyblion
i astudio mwy ar y Beibl.
Gallwch
lawrlwytho'r gwersi yn eu trefn trwy ddewis y grwp oedran
cywir.
|